Rydym yn agor ar y 3ydd o Awst!

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Spooner’s yn agor ei ddrysau unwaith eto ar gyfer gwasanaethau bwrdd bwyta ac yfed tu fewn ar y 3ydd o Awst!

Ynghyd â Chanllawiau Llywodraeth Cymru, byddwn yn croesawu cwsmeriaid i fwyta ac yfed tu fewn drwy wasanaeth bwrdd a fydd yn cynnwys seddi dan do ac seddi awyr agored. Bydd ein ‘Bar’ hefyd yn ail agor, ond sylwch y bydd hyn hefyd yn gweithredu ar wasanaeth bwrdd.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf rydym wedi bod yn brysur yn creu cynllun a fydd yn cynnal diogelwch ein cwsmeriaid a’n staff. Ar ôl cael y golau gwyrdd i ailagor, rydym nawr yn teimlo ein bod yn barod i ddarparu gwasanaeth sydd yn ddiogel ac yn bleserus.

Mae ein cynllyn yn cynnwys gofyn am wybodaeth ‘Monitro ac Olrhain’ wrth gyrraedd, system giwio wrth gadw pellter cymdeithasol, gwasanaeth bwrdd yn unig, trefniadau eistedd wrth gadw pellter cymdeithasol a gorsafoedd glanweithdra dwylo.

Byddwn ar agor 7 diwrnod yr wythnos a bydd ein gwasanaeth Cludfwyd yn parhau i fod ar gael rhwng 09:00 – 16:00. Bydd ein Gwasanaeth Bwrdd ar gael rhwng 12:00 – 20:00, ac bydd ein Gwasanaeth ‘Bar’ ar gael rhwng 12:00 – 22:00.

Darperir gwybodaeth manwl am ein hailagor yn ein tudalen Cwestiynau Cyffredin (FAQs); * LINK *.

Rydym yn gwerthfawrogi y bydd llawer o ymholiadau ynghylch ein hailagor, er hyn rydym yn eich annog i ddarllen ein Cwestiynau Cyffredin (FAQs) yn ddrylwyr cyn anfon e-bost neu galw ein swyddfeydd.

Rydym yn edrych ymlaen i groesawu chi i gyd yn ôl i Spooner’s.

Comments are closed.