Rydym yn ail agor y bar! …

Yn unol â’r diweddariad diweddaraf i ganllawiau, rydym yn falch iawn i gyhoeddi y bydd Bar Spooner’s yn ‘agored i fusnes’ eto o Ddydd Llun 17 Mai.

Bydd y ‘Gwasanaeth Siop Cludfwyd’ o Gaffi Spooner’s yn parhau i fod ar gael rhwng 09:00 – 16: 00 bob dydd – ar gyfer trigolion lleol ac ymwelwyr.

Bydd Bar Spooner’s ar agor rhwng 12:00 – 22:00, yn cynnig gwasanaeth bwrdd ‘diodydd yn unig’ ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu hen ffrindiau yn ôl a, gobeithio, gwneud rhai newydd …

Rydym yn parhau i ailadeiladu ein tîm arlwyo, felly ni allwn ddarparu ein dewis arferol o brydau bar a phrydau arbennig gyda’r nos ar hyn o bryd. Byddwn yn ailddechrau ‘gwasanaeth arferol’ cyn gynted ag y gallwn.

Yn y cyfamser, gadewch i ni godi gwydraid i ddathlu gallu cwrdd eto ….

Iechyd da ..!

Comments are closed.