Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yn falch iawn o gyhoeddi y byddwn yn gweithio gyda bragdy lleol Porthmadog ‘Mŵs Piws’, sydd wedi cynhyrchu ‘cwrw â label newydd thema rheilffordd’ ar werth ar y rheilffordd yn unig.
Mae ‘Cwrw Stem Gymreig’ yn gwrw gwelw euraidd adfywiol – y cyfeiliant perffaith i daith drên odidog drwy’r mynyddoedd.
Cyfarfodd Rheolwr Bwyd a Diod Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri, David Bevan a Rheolwr Gyfarwyddwr ‘Mŵs Piws’, Lawrence Washington ar y platfform yng Ngorsaf Harbwr Porthmadog i lansio’r bartneriaeth newydd yn swyddogol.
Mae botel ‘Cwrw Stem Gymreig’ yn cynnwys dyluniad adnabyddus ‘Mŵs Piws’ ynghyd â llun o ‘Welsh Pony’, yr injan stêm hanesyddol a gafodd ei hailddosbarthu y llynedd yn dilyn prosiect adnewyddu hir.
Mae’r cwrw hwn bellach ar werth mewn allfeydd arlwyo y rheilffordd yn unig, gwnewch yn siŵr eich bod yn prynu botel i fynd ar y trên, i fynd adref gyda chi neu i fwynhau yng ngardd cwrw Spooner’s!
Mae hi wedi bod yn adeg anodd i’r diwydiant lletygarwch ond nawr bod pethau’n agor, gallwn ni i gyd edrych ymlaen at eistedd allan yng ngardd cwrw Spooner’s i fwynhau cwrw lleol!