Yma yn Spooner’s rydym yn cychwyn y Flwyddyn Newydd drwy wneud gwaith adfer er mwyn gwella ein cyfleusterau a’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i’n cwsmeriaid.
Er mwyn i’r gwaith hwn gael ei gwblhau, byddwn ar GAU rhwng Dydd Llun, 10fed – Dydd Llun, 17eg (yn gynhwysol) o Ionawr.
Bydd y gwaith sy’n cael ei wneud yn ystod y cyfnod hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar welliannau i’n hardal Bar. Bydd hyn yn cynnwys gosod system ‘Cellar’ newydd i wella Ansawdd Cwrw / Seidr, llinellau cwrw newydd ar gyfer cwrw, seidr a chwrw casgenni, gosod ffynhonnau cwrw a phympiau llaw newydd, gwelliannau esthetig i’r bar a llawer mwy.
Yn y cyfamser, bydd ein drysau yn dal ar agor tan Ddydd Sul, 9fed o Ionawr, ac yn ystod yr amser hwnnw byddwn yn gweithredu ein horiau agor safonol, sydd ar gael ar gwefan Spooner’s.
Ar ôl cwblhau’r gwaith, ein nod yw ailagor ein drysau ar Ddydd Mawrth, 18fed Ionawr.
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i gyd yn ôl, unwaith y bydd y gwaith hwn wedi’i gwblhau, mewn Spooner’s newydd a gwell!