Spooner’s i gymryd rhan yng Nghŵyl Cymru

Dim ond 10 diwrnod sydd i fynd nes bydd Cwpan y Byd 2022 yn cychwyn yn Qatar ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Spooner’s yn cymryd rhan yng Ngŵyl Cymru Festival!

Bydd Gŵyl Cymru yn ddigwyddiad creadigol o leiaf 10 diwrnod, a fydd yn dod â chymunedau ynghyd fel rhan o gefnogaeth y genedl i Gymru yn ystod eu hymgyrch Cwpan y Byd FIFA 2022 yn Qatar.

Mae cymunedau, clybiau pêl-droed, sefydliadau celfyddydol a lleoliadau wedi’u gwahodd i drefnu rhaglen o ddigwyddiadau, gweithdai a pherfformiadau a dod yn rhan o’r ŵyl greadigol hon.

Yma yn Spooner’s, byddwn yn dangos detholiad o gemau byw drwy gydol y twrnamaint, gan gynnwys holl gemau Cymru, cynigion bwyd a diod arbennig ac arddangosfa arbennig i gysylltiad hir y Rheilffordd â’n clwb pêl-droed lleol, CPD Porthmadog, ynghyd a cystadlaethau hefyd.

Rydym yn edrych ymlaen at amlygu’r cyfoeth o gelf, cerddoriaeth a digwyddiadau sy’n cael eu creu ar gyfer Cwpan y Byd – ac if od yn rhan o rywbeth mwy.

Gyda’n gilydd yn gryfach.

Bydd manylion pellach ar gael yn fuan!

Comments are closed.