Diweddariad Diweddaraf!

Byddwn nawr yn ail-agor ar Ddydd Sadwrn 21ain o Ionawr, oherwydd ein bod angen ychydig o amser ychwanegol i orffen y rhestr bresennol o swyddi er mwyn sicrhau bod Spooner’s ar ei orau ar gyfer y tymor newydd.

Byddwn yn cyflwyno Bwydlenni Brecwast, Cinio a Noson newydd pan fyddwn yn ail agor – mwy o fanylion i ddilyn.

– Amseroedd gweini bwyd:
Brecwast – ar gael bob dydd o 09:00 – 15:00
Cinio – ar gael bob dydd o 12:00 – 15:00
Prydau Nos – ar gael o Ddydd Mercher i Ddydd Sadwrn o 17:00-20:00

– Bydd ein bwydlenni Brecwast a Chinio newydd yn cael eu defnyddio o Ddydd Sadwrn 21 Ionawr.

– Bydd Prydau Nos yn cael ei ail-gyflwyno o Ddydd Gwener 27 Ionawr.

Bydd nos Iau yn parhau fel ‘Nosweithiau Cyri’, gyda’n bwydlen newydd prydau nos ar gael ar Ddydd Mercher, Ddydd Gwener a Dydd Sadwrn.

– Bydd ein sesiynau Bingo gaeaf poblogaidd yn dychwelyd am 20:00 ar nos Wener, yn ail-ddechrau ar y 27ain o Ionawr

– Mae ein carferi Dydd Sul wedi bod yn nodwedd dymhorol boblogaidd yn Spooner’s ers tro – ac bydd y rhain yn ailddechrau o Ddydd Sul 29ain o Ionawr.

Rydym wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer y tymor newydd ac mae’r Tîm yn Spooner’s yn edrych ymlaen at eich croesawu yn ôl – felly dewch i ymweld â ni yn ystod 2023!

Comments are closed.