Home » Amdanom Ni

Amdanom Ni

“Mae Caffi & Bar Spooners yn cynnig dewis eang o gacennau, melysion, diodydd poeth ac oer, yn ogystal â chynnig amrywiaeth o ddiodydd alcoholig, gan gynnwys cwrw casgen a gwirodydd lleol.

Mae ein teras cwrw yn lleoliad perffaith i chi fwynhau ychydig o haul gyda golygfeydd gwych ar draws y bae a chyfle i wylio ein rheilffordd yn gweithredu. Y tu mewn, gallwch ddarganfod ychydig o hanes gan fod gennym rai arteffactau trawiadol o orffennol y rheilffordd yn cael eu harddangos.

Felly os ydych chi’n bachu paned a chacen tra’ch bod yn aros am y trên neu’n mwynhau ychydig o ddiodydd ymlaciol, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n galw fewn i Spooners!”

David Bevan – Rheolwr Bwyd a Diod