Mae’n ymddangos mor amlwg – Yn Spooner’s mae bwyd i fynd wedi bod ar gael erioed, ond dan ni ddim wedi brolio am y peth. Tan rŵan!
Ar ôl i gymaint o bobl ganu clodydd ein pitsas 12” dan ni wedi penderfynu lansio Bwydlen Bwyd i Fynd swyddogol, sy’n cynnwys penfras mewn cytew cwrw, sglodion, pys slwtsh, byrgyr cig eidion, byrgyr ffa sbeislyd, byrgyr cyw iâr ac amrywiaeth o brydau plant yn ogystal â’r pitsas blasus yna.
Mae’r rhain ar gael rhwng 4pm a 9pm bob nos. Galwch acw neu ffoniwch i archebu ar 01766 516032. Mae gennym ddigonedd o le i barcio am ddim oddi ar y stryd.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn fuan!