Home » Cartref

Cartref

Mae Bar, Caffi a Gril Spooner’s yn eich croesawu trwy’r dydd. Rydym yn agored ar gyfer brecwast o 9 o’r gloch y bore ac yn darparu prydau wedi eu coginio ar y pryd hyd at 9 o’r gloch y nos. Mae’r bar yn agored tan yn hwyr 364 diwrnod y flwyddyn, ond rydym yn cael gwyliau ar Ddydd Nadolig! (Gall yr amseroedd amrywio pan nad oes trenau yn rhedeg.)

Caffi:

Rydym yn cynnig sawl math o goffi, â’r ffa wedi eu malu’n ffres ar gyfer pob cwpanaid, ynghyd â the a diodydd meddal trwy’r dydd. Mae’r diwrnod yn dechrau gyda brecwast wedi’i goginio; gallwch greu eich brecwast eich hun o amrywiaeth o eitemau wedi eu coginio yn y fan a’r lle ar eich cais. Rydym hefyd yn cynnig croissants ffres, iogwrt, ffrwythau a grawnfwyd, ac ni fyddai caffi rheilffordd yn gaffi rheilffordd heb frechdan gig moch! Yn hwyrach yn y dydd rydym yn cynnig prydau ysgafn, brechdanau wedi eu paratoi ar y pryd a thostis. Os am rywbeth mwy sylweddol gallwn goginio cinio canol dydd, gan gynnwys byrgyrs, pysgod neu ham wedi ei goginio gartref. Yn ystod y dydd rydym hefyd yn Siop Goffi gydag amrywiaeth ryfeddol o gacenni i’ch temtio. Ac yn olaf, os ydych ar frys i ddal y trên cynigiwn wasanaeth bachu a mynd!

Y Gril:

O bedwar o’r gloch ymlaen rydym yn cynnig ein bwydlen gyda’r nos, a hynny hyd at naw o’r gloch. Rydym yn prynu hynny a fedrwn o’n cynhwysion yn lleol, gan gynnwys ein cig a’n cynnyrch ffres. Yna mae’r cogyddion yn troi’r cynhwysion hyn yn brydau a fydd yn tynnu dŵr o’ch dannedd i chi eu mwynau.

Bar:

Mae ein bar, sydd wedi ennill gwobrau, yn cynnig hyd at wyth cwrw casgen ar unrhyw adeg, gan gynnwys cwrw lleol a rhai sydd yn adnabyddus yn genedlaethol. Yn naturiol rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o lager a mathau eraill o gwrw a gwirodydd a diodydd meddal, yn ogystal â rhestr o winoedd rhesymol eu pris, gyda rhai ohonynt ar gael fesul gwydriad. Rydym yn arbennig o falch o’n hamrywiaeth o Wisgi Brag a Jin Crefft.

Mae yna le i 100 o bobl eistedd y tu mewn ac i 72 o bobl ar ein teras y tu allan ar y platfform. Felly fel arfer mae yna ddigon o le i bawb.